Mae Dynamix wedi gwneud amrywiaeth eang o waith cyffrous yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, gan weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector. Dyma rai enghreifftiau o’r gwaith a wnawn.
Gofynnwyd i Dynamix hwyluso gweithgareddau cyfranogi yn ystod penwythnos breswyl ar gyfer aelodau Panel Grantiau dan arweiniad Ieuenctid, Cynghorwyr Gwirfoddol Ieuenctid a sefydliadau cysylltiedig.
Cafodd yr ymgynghoriad ei gynllunio yn unol â Safonau Cyfranogi Cenedlaethol. Defnyddiwyd dulliau ansoddol oedd yn caniatáu i'r bobl ifanc rannu eu straeon a barnau mewn amgylchedd diogel ac ymgysylltiol, ble roedd eu lles emosiynol yn flaenoriaeth.
Addaswyd gweithgareddau'n rheolaidd i fodloni anghenion penodol cyfranogwyr ar y dydd ac fe’u detholwyd i sicrhau’r allbwn gorau posibl o wybodaeth tra hefyd yn sensitif i unrhyw anghenion emosiynol.
Roedd rhai o'r bobl ifanc eisiau cymryd rhan, ond ddim yn barod i fod yn rhan o ymgynghoriad grŵp. I sicrhau bod lleisiau’r bobl ifanc yma’n cael eu clywed yn yr ymgynghoriad hwn, dyluniodd Dynamix becyn hyfforddi y gallai gweithwyr ei ddefnyddio ar sail 1 i 1 gyda phobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys yr holl ddulliau a gweithgareddau perthnasol wedi eu cyflwyno ar ffurf hygyrch a dengar i weithwyr eu defnyddio pan fo’n briodol gyda’r bobl ifanc yma.
“Dwi'n meddwl bod cymryd rhan yn y prosiect yma ac eraill wir wedi helpu newid ei hunaniaeth o rywun sydd angen help i rywun sy'n gallu helpu - pwerus iawn yn ystod ei adferiad.”
Mae Dynamix wedi darparu amrywiaeth eang o brosiectau cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gorffennol. Roedd y rhaglen ‘Creu Prydain Gryfach gyda’n gilydd’ yn gyfle perffaith i adeiladu ar brosiectau blaenorol a gwaith gydag ysgolion.
Mae Dynamix wedi bod yn gweithio gyda chymunedau Buddsoddi Lleol ar draws Cymru i ddatblygu sgiliau mewn cyfranogiad, cynhwysiant ac ymgynghori. Mae Buddsoddi Lleol yn rhaglen ledled Cymru gydag egwyddorion datblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau yn graidd.
Mae meithrin tîm Dynamix yn rhoi cyfle i’ch tîm ddadflino, ymlacio a dod i adnabod ei gilydd. Mae’r rhaglen Taclo'r Tensiwn yn gyfres o sesiynau hyfforddi codi ymwybyddiaeth.
Mae Dynamix wedi darparu cyfres o ddyddiau datblygu tîm yn ffocysu ar ddulliau newydd o weithio a chael tîm i ddarparu adborth ar arferion newydd, rhannu dealltwriaeth, cynlluniau newydd a dulliau gweithio.
Mae Dynamix wedi darparu nifer o sesiynau meithrin tîm, gan ddod â gweithwyr ynghyd ar draws y sir i rannu dealltwriaeth o wahanol ddulliau o weithio a chreu cysylltiadau gyda thimau sy'n aml yn gweithio ar wahân.
Fe ddenodd y prosiect hwn bobl ifanc i roi'r sgiliau a hyder iddynt gael llais yn eu cymunedau lleol, ac i’w rhoi mewn cysylltiad gyda’r rhai sydd angen gwrando er mwyn gallu gwneud y newidiadau roeddynt eisiau ei gweld.
Gofynnwyd i Dynamix hwyluso gweithgareddau cyfranogi yn ystod penwythnos breswyl ar gyfer aelodau Panel Grantiau dan arweiniad Ieuenctid, Cynghorwyr Gwirfoddol Ieuenctid a sefydliadau cysylltiedig.