Mae ein gwaith yn cwmpasu hyfforddiant sylfaenol a grymuso aelodau’r gymuned sydd ar yr ymylon hyd at waith hyfforddiant ac ymgynghori ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae gennym bedair ffrwd waith canolog:
Hyfforddiant ar ddulliau cyfranogi
Ymgynghoriad
Hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth
Hwyluso a meithrin tîm
Ein harbenigedd creiddiol yw sut i wella ymgysylltiad gyda phobl a gwneud y gorau o gyfranogiad. Rydym yn cynnal hyfforddiant ar y dulliau hyn ar gyfer amrywiol gynulleidfaoedd; gan gynnwys aelodau'r gymuned a grwpiau yn ogystal â chyrff cyhoeddus a sefydliadau sector gwirfoddol sy'n gweithio gyda chynulleidfaoedd ymylol. Credwn fod y dulliau hyn yn allweddol i ddatgloi mwy o gydraddoldeb a bod ganddynt y potensial i newid sut mae pobl yn gweithio er lles pawb.
CysylltwchRydym yn cyflawni gwaith ymgynghori’n rheolaidd ar gyfer cyrff cyhoeddus a’r sector gwirfoddol. Rydym yn arbenigwyr o ran rhoi ein hymagweddau cyfranogol ar waith wrth ymgysylltu â rhai a ystyrir yn draddodiadol i fod yn anoddach eu cyrraedd ac mae’r profiad hwn yn ein galluogi i ddod â lleisiau a barnau'r grwpiau hyn i ffocws i helpu gwella llunio penderfyniadau.
Rydym yn cynnal hyfforddiant penodol yn canolbwyntio ar faterion a chynulleidfaoedd perthnasol i gydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’r rhain yn cynnwys hyfforddiant ar ymwybyddiaeth anabledd, ceiswyr lloches a ffoaduriaid a nodweddion gwarchodedig - ymysg eraill.
CysylltwchMae ein harbenigedd mewn cyfranogiad ac ymgysylltu yn ein rhoi mewn safle unigryw i gynllunio a darparu gweithdai meithrin tîm i helpu timau yn y sector cyhoeddus a phreifat i weithio mewn ffyrdd mwy adeiladol. Mae’r gweithdai hyn yn ffocysu ar sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn llawn a bod nodau ac amcanion y tîm yn cael eu cyflawni'n fwy effeithiol.